Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) has released its latest monthly analysis of trends in the lamb, beef and pork sectors.
Strong livestock prices at market continue to offer some respite for farmers in a period when the cost of agricultural inputs is rising sharply due to the price of energy and the war in Ukraine.
The average deadweight prime cattle prices in England and Wales have been firm during recent weeks, with the current average for steers stabilising at 437.9p/kg. This is 46p above year-earlier levels and substantially higher than the long-term average. Liveweight prices for new season lambs averaged 330.0p per kilo, which is likewise 66p higher than the 5-year average for the time of year.
Commenting on the figures, Katie Davies, Vice-Chair of the Livestock Auctioneers’ Association Wales, said,
‘We continue to see a buoyant trade in the finished and cull rings for both sheep and cattle. As the trade in old season stock moves towards an end, the new season lambs are currently looking a promising trade. The forthcoming Qurbani festival will hopefully create demand for the sheep sector that will keep prices strong. The good returns that continue to be seen in the finished sheep and cattle rings are continuing to pass through to the store ring for both breeding and finishing animals.”
The comparatively high prices for livestock in both 2021 and 2022 is part of the reason for the improvement in carcase conformation figures, newly released by AHDB, according to HCC’s analysis.
In the May Market Bulletin, it is revealed that the past two years have seen an increase in the percentage of lamb carcases hitting the ‘R’ conformation grade at British abattoirs, from 54.8% to 58.7%, meaning that more animals are reaching the target customer and market specifications.
In terms of cattle, there was also an increase in the percentage of animals hitting the standard specification, while there was also a tendency for carcase weights to be heavier during the past year.
“Consistently strong prices for beef cattle last year may have tempted some farmers to hold on to animals for longer to fatten, which will partly explain the heavier carcase weights” explained HCC Data Analyst Glesni Phillips.
“Overall, the picture as regards carcase classification is a positive one, with more lambs meeting the desired specification and fewer being over-fat, which is good news for reducing waste and improving the efficiency of the sector as a whole.”
Further analysis of prices and carcase classification trends can be read in HCC’s Monthly Market Bulletin for May at meatpromotion.wales/en/news-industry-info/market-bulletin
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi ei ddadansoddiad misol diweddaraf o dueddiadau yn y sectorau cig oen, cig eidion a phorc. Mae prisiau da byw cryf yn y farchnad yn parhau i gynnig rhywfaint o seibiant i ffermwyr mewn cyfnod pan fo cost mewnbynnau amaethyddol yn codi'n sydyn oherwydd pris ynni a'r rhyfel yn yr Wcrain.
Mae prisiau pwysau marw cyfartalog gwartheg dethol yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gadarn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda’r cyfartaledd presennol ar gyfer bustych yn sefydlogi ar 437.9c/kg. Mae hyn 46c yn uwch na lefelau'r flwyddyn flaenorol ac yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd hirdymor. Roedd prisiau pwysau byw ar gyfer ŵyn y tymor newydd yn 330.0c y kilo ar gyfartaledd, sydd yn yr un modd 66c yn uwch na’r cyfartaledd 5 mlynedd ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.
Wrth wneud sylwadau ar y ffigurau, dywedodd Katie Davies, Is-Gadeirydd Cymdeithas Arwerthwyr Da Byw Cymru,
“Rydym yn parhau i weld masnach fywiog yn y cylchoedd gorffenedig a difa ar gyfer defaid a gwartheg. Wrth i’r fasnach mewn stoc hen dymor symud tua’i therfyn, mae’r ŵyn tymor newydd ar hyn o bryd yn edrych yn fasnach addawol. Y gobaith yw y bydd gŵyl Qurbani sydd ar ddod yn creu galw yn y sector defaid a fydd yn cadw prisiau’n gryf. Mae’r enillion da sy’n parhau i’w gweld yn y cylchoedd defaid a gwartheg gorffenedig yn trosglwyddo i’r cylch stôr ar gyfer anifeiliaid i’w bridio a’u pesgi.”
Mae’r prisiau cymharol uchel ar gyfer da byw yn 2021 a 2022 yn rhan o’r rheswm dros y gwelliant yn ffigurau cydffurfiad carcasau, sydd newydd eu rhyddhau gan AHDB, yn ôl dadansoddiad HCC.
Ym Mwletin y Farchnad ym mis Mai, datgelir bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld cynnydd yn y ganran o garcasau ŵyn sy’n cyrraedd y radd cydffurfiad ‘R’ mewn lladd-dai ym Mhrydain, o 54.8% i 58.7%, sy’n golygu bod mwy o anifeiliaid yn cyrraedd gofynion targed y manwerthwyr.
O ran gwartheg, bu cynnydd hefyd yng nghanran yr anifeiliaid a gyrhaeddodd y mesuriadau safonol, tra bod tueddiad hefyd i bwysau carcasau fod yn drymach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n bosibl bod prisiau cyson uchel am wartheg cig eidion y llynedd wedi temtio rhai ffermwyr i ddal gafael ar anifeiliaid am fwy o amser i’w pesgi, a fydd yn esbonio’n rhannol y pwysau carcasau trymach” esboniodd Dadansoddwr Data HCC, Glesni Phillips.
“Ar y cyfan, mae’r darlun o ran dosbarthiad carcasau yn un cadarnhaol, gyda mwy o ŵyn yn bodloni’r fanyleb ddymunol a llai yn rhy dew, sy’n newyddion da ar gyfer lleihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd y sector yn ei gyfanrwydd.”
Gellir gweld y dadansoddiad llawn yn y Bwletin y Farchnad sydd ar-lein yn y fan yma: meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad
Business News Wales from Business News Wales on Vimeo.